*
*

🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿👇

About Anna

First elected as the Member of Parliament for Cardiff North in the 2017 General Election, Anna was re-elected in 2019 nearly doubling her majority.

She has lived locally for over 20 years, bringing her two daughters up in Cardiff North. She also has two cats and her Cocker Spaniel Cadi, who you may have seen on the campaign trail!

Anna joined the Labour Party as a teenager after seeing the damage caused by Thatcherism. Those years spurred her on to protect and strengthen our communities. She was an environmental campaigner before going on to be the Special Adviser on Climate Change and Environment in the Welsh Labour Government for over six years, helping to shape and deliver anti-poverty programmes and introduce legislation to protect workers, our environment and our future generations, as well as create new energy and sustainable development programmes.

Anna also represented Wales at European Union and United Nations level, working on climate change and sustainable development. She then worked with over 50 states and regions in the UN negotiations in the run up to the Paris Climate Agreement, securing reference to states and regions in the official agreement. Before being elected she also ran a small business bringing renewable energy investment and business into Wales.

She is passionate about the environment, strengthening the green agenda and responding to the climate emergency and is a keen Welsh learner, enjoying practising with her children who are fluent. She enjoys live music, good food and going for long walks with Cadi and the family. She also speaks French and Spanish and loves practising that where possible too!

Anna is a member of Unison and GMB unions, LGBT Labour, Labour Women’s Network and the Co-operative Party.

 


As Cardiff North’s MP Anna has:

  • Built a highly regarded constituency office team, helping thousands of constituents with issues from universal credit, housing to immigration matters.
  • Campaigned for action to tackle the Climate Emergency and single use plastics- introducing two Bills into Parliament to this effect.
  • Previously been the voice for Remain in Cardiff North.
  • Fought against the hostile environment of the Home Office and devastating welfare reforms which have pushed people deeper into poverty.
  • Led a grassroots campaign to cut single-use plastic across communities in Cardiff North.
  • Been a champion of local causes, making myself accessible and visible to my constituents, holding hundreds of advice surgeries, coffee mornings, street stalls and community events across the constituency.
  • Fought against the politics of division and hate that seek to blame others for the problems caused by a Tory Government.
  • Worked hard alongside Julie Morgan AM and our local councillors for our constituents in Cardiff North.

 


Parliamentary Roles and Responsibilities

Anna was appointed Shadow Minister for Victims and Youth Justice in May 2021 in David Lammy MP’s Shadow Justice team. Anna was previously appointed Shadow Minister for International Development under Keir Starmer’s leadership in 2020, leading on issues relating to climate justice and the environment and the Middle East and North Africa.

Anna is an active member of the Business, Energy and Industrial Strategy (BEIS) Committee, scrutinising Government and businesses to account on tackling climate change and protecting jobs and investment, particularly in light of the COVID-19 outbreak and as we leave the EU.

Anna is Vice Chair of the All Party Parliamentary Group (APPG) on Net Zero, launched earlier this year which will work across the political divide to push for urgent action to implement zero carbon solutions and deliver a net zero carbon economy.

Anna has taken part in the Armed Forces Parliamentary Scheme which involved spending time with our brave Armed Forces around the country and experiencing the training they undertake. This is a great opportunity to understand the sacrifices they make in protection of our security and will better help with decision making.

 


Hanes Anna
🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿

Ar ôl iddi gael ei hethol gyntaf yn Aelod Seneddol Gogledd Caerdydd yn Etholiad Cyffredinol 2017, cafodd Anna ei hailethol yn 2019 gan bron ddyblu ei mwyafrif.

Mae hi wedi byw yn lleol am dros 20 mlynedd, gan fagu ei dwy ferch yng Ngogledd Caerdydd. Mae ganddi hefyd ddwy gath a’i Spaengi Hela, Cadi, a oedd i’w gweld ar y strydoedd yn cefnogi’r ymgyrch!

Ymunodd Anna â’r Blaid Lafur yn ei harddegau ar ôl gweld y dinistr a achoswyd gan Thatcheriaeth. Fe wnaeth y blynyddoedd hynny ei sbarduno i amddiffyn a chryfhau ein cymunedau. Roedd hi’n ymgyrchydd amgylcheddol cyn symud ymlaen i fod y Cynghorydd Arbennig ar Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd yn Llywodraeth Llafur Cymru am chwe blynedd, gan helpu i lunio a chyflawni rhaglenni trechu tlodi a chyflwyno deddfwriaeth i amddiffyn gweithwyr, ein hamgylchedd a chenedlaethau’r dyfodol, yn ogystal â chreu rhaglenni newydd ar gyfer ynni a datblygu cynaliadwy.

Fe wnaeth Anna hefyd gynrychioli Cymru ar lefel yr Undeb Ewropeaidd a’r Cenhedloedd Unedig, gan weithio ar newid yn yr hinsawdd a datblygu cynaliadwy. Gweithiodd wedyn gyda dros 50 o wladwriaethau a rhanbarthau yn nhrafodaethau’r Cenhedloedd Unedig yn y cyfnod cyn Cytundeb Hinsawdd Paris, gan sicrhau bod cyfeiriad at wladwriaethau a rhanbarthau yn y cytundeb swyddogol. Cyn iddi gael ei hethol roedd hi hefyd yn rhedeg busnes bach a oedd yn dod â buddsoddiad a busnes ynni adnewyddadwy i Gymru.

Mae hi’n danbaid dros yr amgylchedd, cryfhau’r agenda werdd ac ymateb i’r argyfwng hinsawdd ac mae hi’n ddysgwraig Cymraeg frwdfrydig, ac yn mwynhau ymarfer gyda’i phlant sy’n rhugl yn yr iaith. Mae hi’n mwynhau cerddoriaeth fyw, bwyd da a cherdded gyda Cadi a’r teulu. Mae hi hefyd yn siarad Ffrangeg a Sbaeneg ac mae hi wrth ei bodd yn ymarfer y rheini pan fo hynny’n bosibl hefyd!

Mae Anna yn aelod o undebau Unison a GMB, ac o LGBT Llafur, Rhwydwaith Menywod Llafur a’r Blaid Gydweithredol.

 


Yn ei swydd o fod yn AS Gogledd Caerdydd mae Anna wedi:

  • Sefydlu tîm uchel ei barch yn y swyddfa etholaethol, gan helpu miloedd o etholwyr gyda materion fel credyd cynhwysol, tai a materion mewnfudo.
  • Ymgyrchu i weithredu i fynd i’r afael â’r Argyfwng Hinsawdd a phlastigau defnydd untro – gan gyflwyno dau Fil i’r Senedd yn ymwneud â hynny.
  • Bod yn llais Aros yng Ngogledd Caerdydd yn flaenorol.
  • Brwydro yn erbyn amgylchedd gelyniaethus y Swyddfa Gartref a’r diwygiadau budd-daliadau dinistriol sydd wedi gwthio pobl yn ddyfnach i dlodi.
  • Arwain ymgyrch llawr gwlad i leihau plastigau defnydd untro ar draws cymunedau yng Ngogledd Caerdydd.
  • Hyrwyddo achosion lleol, gwneud yn siŵr fy mod ar gael ac yn weladwy i’m hetholwyr, gan gynnal cannoedd o gymorthfeydd cynghori, boreau coffi, stondinau stryd a digwyddiadau cymunedol ledled yr etholaeth.
  • Brwydro yn erbyn gwleidyddiaeth rwygol a chasineb sy’n ceisio rhoi’r bai ar eraill am y problemau a achoswyd gan Lywodraeth Dorïaidd.
  • Gweithio’n galed gyda Julia Morgan AC a’n cynghorwyr lleol ar ran ein hetholwyr yng Ngogledd Caerdydd.

Swyddogaethau a Chyfrifoldebau Seneddol

Cafodd Anna ei phenodi yn Weinidog Datblygiad Rhyngwladol yr Wrthblaid o dan arweinyddiaeth Keir Starmer, gan arwain ar faterion yn ymwneud â chyfiawnder hinsawdd a’r amgylchedd a’r Dwyrain Canol a Gogledd Affrica. Fodd bynnag, yr hyn sy’n mynnu ein sylw pennaf ar hyn o bryd yw bygythiad byd-eang COVID-19 ac effaith hynny ar y rhai mwyaf agored i niwed ar draws y byd a dyna fydd prif bwyslais yr adran.

Mae Anna yn aelod gweithredol o’r Pwyllgor Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS), gan graffu a dwyn i gyfrif y Llywodraeth a busnes wrth fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd ac amddiffyn swyddi a buddsoddiad, yn enwedig o ystyried achosion COVID-19 ac wrth i ni adael yr UE.

Anna yw Is-gadeirydd y Grŵp Seneddol Hollbleidiol (APPG) ar Net Sero, a lansiwyd yn gynharach eleni a bydd y grŵp yn gweithio ar draws y rhaniad gwleidyddol i wthio am weithredu brys i roi datrysiadau di-garbon ar waith ac i gyflawni economi garbon net sero.

Mae Anna wedi cymryd rhan yng Nghynllun Seneddol y Lluoedd Arfog a oedd yn golygu treulio amser gyda’n Lluoedd Arfog dewr o amgylch y wlad a chael profiad o’r hyfforddiant y maen nhw’n ei gael. Mae hwn yn gyfle gwych i ddeall yr aberth y maen nhw’n ei wneud wrth warchod ein diogelwch a bydd hefyd o gymorth wrth wneud penderfyniadau.

 


 

*
*
Link to Instagram Link to Twitter Link to YouTube Link to Facebook Link to LinkedIn Link to Snapchat Close Fax Website Location Phone Email Calendar Building Search