Y Senedd

Swyddogaethau a Chyfrifoldebau Seneddol

Rwy'n aelod o'r Pwyllgor Dethol Archwilio Amgylcheddol. Bydd cylch gwaith y pwyllgor yn caniatáu i ni ystyried i ba raddau y mae polisïau'r llywodraeth yn cyfrannu at ddiogelu'r amgylchedd a datblygu cynaliadwy, ac i archwilio eu perfformiad a'u targedau. Bydd bod yn aelod o'r pwyllgor hwn yn fy ngalluogi i ddwyn y Llywodraeth i gyfrif ar faterion o'r math hwn.

Rwyf hefyd yn aelod o’r Pwyllgor Materion Cymreig. Ei gylch gorchwyl yw archwilio materion o fewn cyfrifoldebau Ysgrifennydd Gwladol Cymru (gan gynnwys cysylltiadau â Chynulliad Cenedlaethol Cymru). Yn ymarferol, mae’r Pwyllgor yn archwilio polisïau Llywodraeth y DU sy’n effeithio ar Gymru (er enghraifft, cludiant strategol, llesiant ac amddiffyn).

Grwpiau Seneddol Hollbleidiol

Rwy'n aelod o nifer o Grwpiau Seneddol Hollbleidiol. Mae'r grwpiau hyn yn dod ag Aelodau Seneddol o wahanol bleidiau sydd â diddordeb mewn pwnc penodol at ei gilydd, i rannu gwybodaeth ac ymgyrchu ar faterion allweddol sy'n berthnasol i'r pwnc. Rwyf wedi ymuno a'r grwpiau hyn, naill ai oherwydd eu bod yn uniongyrchol berthnasol i Ogledd Caerdydd, y boblogaeth a'r problemau yno, neu oherwydd bod etholwyr wedi gofyn i mi ymuno â grŵp sy'n arbennig o bwysig iddyn nhw, neu fod y grŵp yn ymwneud â rhywbeth sydd wedi bod o ddiddordeb hirsefydlog i mi.

Ar hyn o bryd, rwyf yn aelod o'r Grwpiau Seneddol Hollbleidiol canlynol:

  • Pobl Hŷn a Phobl sy'n Heneiddio
  • Lles Anifeiliaid
  • Gwenyn
  • Brexit Gwell i Bobl Ifanc
  • Plant Cymru
  • Newid yn yr Hinsawdd
  • Dementia
  • Cerbydau Trydan
  • Storio Ynni
  • Pedwerydd Chwyldro Diwydiannol
  • Hemoffilia a Gwaed Wedi'i Heintio
  • Gofal Hosbis a Gofal Lliniarol
  • Bwydo Babanod
  • Masnach a Buddsoddi Rhyngwladol
  • Y Cyfryngau
  • Iechyd Meddwl
  • Mecsico
  • Clefyd Niwronau Motor
  • Rheilffyrdd Cymru
  • Ynni Adnewyddadwy a Chynaliadwy
  • Sepsis
  • Dinasoedd Clyfar
  • Anghydraddoldeb Pensiwn y Wladwriaeth ar gyfer
  • Sbaen
  • Menywod
  • Myfyrwyr

Warning: Unknown: open(/home/annamcmo/public_html/files/tmp/sess_sb1sgq1lstf7lnm8cglrrbu8q6, O_RDWR) failed: Disk quota exceeded (122) in Unknown on line 0

Warning: Unknown: Failed to write session data (files). Please verify that the current setting of session.save_path is correct (/home/annamcmo/public_html/files/tmp) in Unknown on line 0